Ffrindiau Cronfeydd Caerdydd – Cylchlythyr 5., Gorffennaf 2024
Dyma’r pumed cylchlythyr er pan ffurfiwyd y grŵp dair blynedd yn ôl yn ystod cyfyngiadau Covid, ar dir sydd erbyn hyn yn Ganolfan Ymwelwyr ac yn gyfleuster gwerthfawr i’r gymuned leol. Ceir gwybodaeth am yr atynfeydd ger y cronfeydd a’r modd i archebu gweithgareddau ar https://lisvane-llanishen.com/.
Bu i’r Ganolfan a’r safle ennill lle ar restr fer i dderbyn Gwobr Budd y Gymuned gan Fudiad Brenhinol Tirfesurwyr Siartredig. Roedd aelodau pwyllgor y Ffrindiau ymhlith y rhai oedd yn cyfarfod â’r beirniaid i egluro effaith y cronfeydd.
Bu Dŵr Cymru hefyd yn hyrwyddo’r cronfeydd am Wobr y Faner Werdd – meincnod rhyngwladol safonol i barciau cyhoeddus a gwagleoedd gwyrddion. Cyfarfu Julie, ein trysorydd, â’r aseswr i drafod y cais.
Diolch yn fawr i bawb ddaeth i’n achlysur cymdeithasol yn y Ganolfan ym mis Mawrth. Cyfle gwych ydoedd i’r gwirfoddolwyr gael cyfarfod â’i gilydd. Clywsom gan Richard Cowie o’r GAG am y frwydr i achub y cronfeydd. Croniclwyd y frwydr yn ei lyfr gwych ‘Save our Reservoirs’. Hefyd, bu cyflwyniad ar brosiect ‘Atgofion Digidol’ gan Conor Chipp o Cymunedau Digidol Cymru.
Rhodd Grŵp Gweithredu’r Gronfa (RAG)
Terfynodd y grẃp (RAG) yn 2023 a chytunodd yr aelodau roi rhan sylweddol o’r adnoddau oedd yn weddill i’r Ffrindiau. Fel yr amlygwyd yn y cylchlythyr diwethaf, bydd y rhodd yn cael ei defnyddio i ehangu mynediad i’r safle er budd y gymdeithas gyfan. Byddai hyn yn galluogi unigolion a grwpiau o gefndiroedd difreintiedig i gysylltu â natur ac i gymryd rhan mewn hwylio a gweithgareddau eraill, ar dir ac ar y dŵr, sydd ar gael ger y cronfeydd.
Ar ôl derbyn y cyllid yn gynharach eleni, buom yn trafod gydag aelodau sydd â diddordeb arbennig. Hefyd, buom yn cyfarfod â Dŵr Cymru i ymchwilio sut y gallem weithio gyda’n gilydd i ddatblygu cais am grant ‘People and Places’ y Loteri Genedlaethol. Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb yn y prosiect yma.
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Cynhelir y cyfarfod pwysig hwn Dydd Mercher 10 Gorffennaf yn y Ganolfan Ymwelwyr. Bydd cynigiad i’r grŵp ymgeisio am statws elusennol, etholiadau i nifer o swyddi ar bwyllgorau, cynigiadau am rai newidiadau i’n cyfansoddiad ynghyd â chyfle i holi Dŵr Cymru ynglŷn â’r safle.
Eich Pwyllgor
Diolch yn fawr i Amit Jain a Rajeev Sharma am eu cyfraniad i’r Ffrindiau. Maent wedi ymddiswyddo oherwydd pwysau eraill ar eu hamser.
Croesawyd Paul Hardy i’r cyfarfod. Mae Paul wedi cytuno i fod yn gyfetholedig i’r pwyllgor tan y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y mis nesaf.
Cofiwch ddefnyddio ein ebost os hoffech gysylltu â ni: membership@friendsofcardiffreservoirs.org
Diolch hefyd i’r rhai a atebodd ein arolwg diweddar. Bydd yr atebion yn gymorth i’r pwyllgor i drefnu gweithgareddau a chyfleoedd yn y dyfodol.
Parhau mae’r sesiynau ‘taro heibio’ rheolaidd yng nghaffi’r Ganolfan. Maent yn gyfle i aelodau gymdeithasu ac i bobl ddarganfod mwy o wybodaeth am grŵp y Ffrindiau a’r cyfleoedd sydd ar gael i wirfoddoli. Dyddiadau: 10.00-12.00 Dydd Sadwrn 27 Gorffennaf a Dydd Sadwrn 28 Medi
Aelodaeth o’r Ffrindiau
Mae yna dros 300 o aelodau. Ceir manylion sut i ymuno â’r grŵp Ffrindiau yn adran ‘Membership’ ein gwefan. Y gost yw £5 am flwyddyn neu £10 i deulu.
Hoffem gynnwys rhagor a aelodau yn ein grwpiau gwethrediadol a byddai’n dda clywed oddi wrthych os hoffech ein helpu. Byddai croeso arbennig i unrhywun sydd â sgiliau IT, cyfieithu i’r Gymraeg, marchnata neu/a cysylltiadau cyhoeddus er cynnal ein gwefan, cyfryngau a chyfathrachau yn yr iaith Gymraeg.
Atgofion Digidol
Datblygir y brosiect i gadw atgofion digidol mewn partneriaeth â Dŵr Cymru, Cymunedau Digidol Cymru a Casgliad y Werin Cymru. Bydd cyfleoedd i wirfoddoli gyda’r prosiect yn nes ymlaen. Hefyd, bydd angen ‘guinea pigs’ arnom i arbrofi y broses.
Cyfleoedd i Wirfoddoli
Trwy ein cysylltiad â Dŵr Cymru, gallwn gynnig gweithgareddau amrywiol er rheoli’r coetir. Gall gwirfoddolwyr fod yn llysgenhadon i gynorthwyo ymwelwyr i gael y profiad gorau o’r cronfeydd. Hefyd, mae cyfleoedd i gynorthwyo i ddiogelu a chofnodi’r ffyngoedd prin trwy gribinio’r argaeau yn y gwanwyn neu gymryd rhan yn yr adolygon yn yr hydref. Rhoesom gyfleoedd hefyd i’n haelodau allu ymuno â Ffrindiau Dementia.
Rhoesom gyfle eleni i wirfoddolwyr dderbyn hyfforddiant fel ‘arweinyddion mynd am dro’ i groesawu cymunedau i’r safle. Hefyd, yn eu parau, i arwain cylchdeithiau i gyflwyno hanes y safle a’r cronfeydd, ecoleg a’r gweithgareddau sydd ar gael.
Neges gan Steve Swindell
Derbyniwyd y neges isod gan Steve Swindell. Steve fu’n arwain y gwaith o blannu coed yma. Mae’r neges yn rhoi inni flas o’r hyn a gyflawnir gan y gweithgareddau sy’n cymryd lle yma.
“Hoffwn fynegi fy niolch diffuant a’m gwerthfawrogiad i bob un o’r gwirfoddolwyr brwdfrydig fu’n gweithio’n galed iawn i blannu perthi ger y cronfeydd ar 27ain o Fawrth.
Prosiect cydweithredol gyda’r Coedwigwyr oedd hwn ac fe blanwyd 300 o goed i lenwi’r bylchau yn y berth o amgylch ger mynedfa Adwy’r Dderw Du (Black Oak Gate). Bydd yr ychwanegiad hwn i’r coridor cysefin i gysylltu cynefinoedd o fudd mawr am gannoedd o flynyddoedd i adar preswyl a mudol, gloynnod, gwyfynod, mamaliaid bychain, pryfed, amffibiaid, peillwyr heb anghofio’r draenogod. Mae yma le iddynt fyw, magu, truelio’r gaeaf, lloches a gallant fwydo ar y smorgasbord o flodau, aeron, cnau a llau.
Yn ogystal â’u cyfraniad i’n bywyd gwyllt, mae perthi yn chware rhan hanfodol i lanhau ein hawyr ac yn storfa i garbon yn eu coed a’u gwreiddiau.
Yn union fel y coedtiroedd hynafol sydd yma ac i gyflawni buddiannau bioamrywiaeth, dewiswyd coed brodorol Prydeinig – Draenen Wen (50%), Draenen Ddu (15%), Cyll (15%), Masarn (15%), Celyn (5%). Fe blannwyd y berth mewn rhes driphlyg er hyrwyddo ei buddiannau.
Ychydig o flynyddoedd ôl yr Ail Ryfel Byd, amcangyfrifwyd pe gosodwyd pob perth yn y Deyrnas Unedig o ben bwygilydd, y gellid cylchfordwyo ein planed ugain o weithiau – bron 500,000 o filltiroedd. Ail amcangyfrifwyd eto yn y nawdegau a dim ond 250,000 milltir sydd yn weddill. Felly, tros gyfnod o wythdeg o flynyddoedd, dinistriwyd hanner y perthi – ffaith ysgytwol.
Gyda diolch, mae gan ran helaeth ohonom well dealltwriaeth o’n heffaith amgylcheddol erbyn hyn ac rydym yn barod i newid ein ffyrdd. Yn wir, trwy brosiectau fel hyn ynghyd â blaengareddau y llywodraeth, mae’n wych clywed bod nifer y perthi yn cynyddu.
Unwaith eto, diolchiadau mawr i’n gwirfoddolwyr gwych. Gadewch inni barhau i wneud yr hyn a allwn i ymladd newid hinsawdd.”
Cadw mewn Cysylltiad
Ymgeisiwn i yrru ebost i aelodau yn rheolaidd ynglŷn â cyfleoedd i wirfoddoli Gellir eu gweld ar y system Rheoli Gwirfoddoli (Team Kinetic) a’r ffordd orau i’w gweld yw trwy fewngofnodi i’r system (Login Page (teamkinetic.co.uk)). Os hoffech gofrestru ar Team Kinetic am y tro cyntaf, gyrrwch ebost i membership@friendsofcardiffreservoirs.org os gwelwch yn dda. Os bydd anhawsterau gyda Team Kinetic, mae Richard, cynhaliwr ein TG yn barod iawn i helpu (ebost: ITsupport@friendsofcardiffreservoirs.org).
Ein cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd yw: Instagram: fofcreservoirs; X(twitter) @FofCReservoirs; Gwefan: friendsofcardiffreservoirs.org