Skip to content
Friends of Cardiff Reservoirs
  • HOME
  • News
  • Ecology
  • History
  • Committee
  • Membership
  • Volunteering Activities
  • Related Activities
  • Documents
  • Contact us
  • FAQs
  • Training and resources
  • Search Icon

Friends of Cardiff Reservoirs

Ffrindiau Cronfeydd Caerdydd  – Cylchlythyr 5., Gorffennaf 2024

Ffrindiau Cronfeydd Caerdydd  – Cylchlythyr 5., Gorffennaf 2024

July 1, 2024 FOCR_Admin Comments 0 Comment
This image has an empty alt attribute; its file name is image-4.png

Dyma’r pumed cylchlythyr er pan ffurfiwyd y grŵp dair blynedd yn ôl yn ystod cyfyngiadau Covid, ar dir sydd erbyn hyn yn Ganolfan Ymwelwyr ac yn gyfleuster gwerthfawr i’r gymuned leol. Ceir gwybodaeth am yr atynfeydd ger y cronfeydd a’r modd i archebu gweithgareddau ar https://lisvane-llanishen.com/.

Bu i’r Ganolfan a’r safle ennill lle ar restr fer i dderbyn Gwobr Budd y Gymuned gan Fudiad Brenhinol Tirfesurwyr Siartredig. Roedd aelodau pwyllgor y Ffrindiau ymhlith y rhai oedd yn cyfarfod â’r beirniaid i egluro effaith y cronfeydd.

Bu Dŵr Cymru hefyd yn hyrwyddo’r cronfeydd am Wobr y Faner Werdd – meincnod rhyngwladol safonol i barciau cyhoeddus a gwagleoedd gwyrddion. Cyfarfu Julie, ein trysorydd, â’r aseswr i drafod y cais.

Diolch yn fawr i bawb ddaeth i’n achlysur cymdeithasol yn y Ganolfan ym mis Mawrth. Cyfle gwych ydoedd i’r gwirfoddolwyr gael cyfarfod â’i gilydd. Clywsom gan Richard Cowie o’r GAG am y frwydr i achub y cronfeydd. Croniclwyd y frwydr yn ei lyfr gwych ‘Save our Reservoirs’. Hefyd, bu cyflwyniad ar brosiect ‘Atgofion Digidol’ gan Conor Chipp o Cymunedau Digidol Cymru.

This image has an empty alt attribute; its file name is image.png

Rhodd Grŵp Gweithredu’r Gronfa (RAG)

Terfynodd y grẃp (RAG) yn 2023 a chytunodd yr aelodau roi rhan sylweddol o’r  adnoddau oedd yn weddill i’r Ffrindiau. Fel yr amlygwyd yn y cylchlythyr diwethaf, bydd y rhodd yn cael ei defnyddio i ehangu mynediad i’r safle er budd y gymdeithas gyfan. Byddai hyn yn galluogi unigolion a grwpiau o gefndiroedd difreintiedig i gysylltu â natur ac i gymryd rhan mewn hwylio a gweithgareddau eraill, ar dir ac ar y dŵr, sydd ar gael ger y cronfeydd.

Ar ôl derbyn y cyllid yn gynharach eleni, buom yn trafod gydag aelodau sydd â diddordeb arbennig. Hefyd, buom yn cyfarfod â Dŵr Cymru i ymchwilio sut y gallem weithio gyda’n gilydd i ddatblygu cais am grant ‘People and Places’ y Loteri Genedlaethol. Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb yn y prosiect yma.

This image has an empty alt attribute; its file name is image-1.png

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Cynhelir y cyfarfod pwysig hwn Dydd Mercher 10 Gorffennaf yn y Ganolfan Ymwelwyr. Bydd cynigiad i’r grŵp ymgeisio am statws elusennol, etholiadau i nifer o swyddi ar bwyllgorau, cynigiadau am rai newidiadau i’n cyfansoddiad ynghyd â chyfle i holi Dŵr Cymru ynglŷn â’r safle.

Eich Pwyllgor  

Diolch yn fawr i Amit Jain a Rajeev Sharma am eu cyfraniad i’r Ffrindiau. Maent wedi ymddiswyddo oherwydd pwysau eraill ar eu hamser.

Croesawyd Paul Hardy i’r cyfarfod. Mae Paul wedi cytuno i fod yn gyfetholedig i’r pwyllgor tan y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y mis nesaf.

Cofiwch ddefnyddio ein ebost os hoffech gysylltu â ni: membership@friendsofcardiffreservoirs.org

Diolch hefyd i’r rhai a atebodd ein arolwg diweddar. Bydd yr atebion yn gymorth i’r pwyllgor i drefnu gweithgareddau a chyfleoedd yn y dyfodol.

Parhau mae’r sesiynau ‘taro heibio’ rheolaidd yng nghaffi’r Ganolfan. Maent yn gyfle i aelodau gymdeithasu ac i bobl ddarganfod mwy o wybodaeth am grŵp y Ffrindiau a’r cyfleoedd sydd ar gael i wirfoddoli. Dyddiadau: 10.00-12.00 Dydd Sadwrn 27 Gorffennaf a Dydd Sadwrn 28 Medi

Aelodaeth o’r Ffrindiau    

Mae yna dros 300 o aelodau. Ceir manylion sut i ymuno â’r grŵp Ffrindiau yn adran ‘Membership’ ein gwefan. Y gost yw £5 am flwyddyn neu £10 i deulu.

Hoffem gynnwys rhagor a aelodau yn ein grwpiau gwethrediadol a byddai’n dda clywed oddi wrthych os hoffech ein helpu. Byddai croeso arbennig i unrhywun sydd â sgiliau IT, cyfieithu i’r Gymraeg, marchnata neu/a cysylltiadau cyhoeddus er cynnal ein gwefan, cyfryngau a chyfathrachau yn yr iaith Gymraeg.

Atgofion Digidol 

Datblygir y brosiect i gadw atgofion digidol mewn partneriaeth â Dŵr Cymru, Cymunedau Digidol Cymru a Casgliad y Werin Cymru. Bydd cyfleoedd i wirfoddoli gyda’r prosiect yn nes ymlaen. Hefyd, bydd angen ‘guinea pigs’ arnom i arbrofi y broses.

Cyfleoedd i Wirfoddoli

This image has an empty alt attribute; its file name is image-2.png

Trwy ein cysylltiad â Dŵr Cymru, gallwn gynnig gweithgareddau amrywiol er  rheoli’r coetir. Gall gwirfoddolwyr fod yn llysgenhadon i gynorthwyo ymwelwyr i gael y profiad gorau o’r cronfeydd. Hefyd, mae cyfleoedd i gynorthwyo i ddiogelu a chofnodi’r ffyngoedd prin trwy gribinio’r argaeau yn y gwanwyn neu gymryd rhan yn yr adolygon yn yr hydref. Rhoesom gyfleoedd hefyd i’n haelodau allu ymuno â Ffrindiau Dementia.

Rhoesom gyfle eleni i wirfoddolwyr dderbyn hyfforddiant fel ‘arweinyddion mynd am dro’ i groesawu cymunedau i’r safle. Hefyd, yn eu parau, i arwain cylchdeithiau i gyflwyno hanes y safle a’r cronfeydd, ecoleg a’r gweithgareddau sydd ar gael.

Neges gan Steve Swindell

Derbyniwyd y neges isod gan Steve Swindell. Steve fu’n arwain y gwaith o blannu coed yma. Mae’r neges yn rhoi inni flas o’r hyn a gyflawnir gan y gweithgareddau sy’n cymryd lle yma.

“Hoffwn fynegi fy niolch diffuant a’m gwerthfawrogiad i bob un o’r gwirfoddolwyr brwdfrydig fu’n gweithio’n galed iawn i blannu perthi ger y cronfeydd ar 27ain o Fawrth.

Prosiect cydweithredol gyda’r Coedwigwyr oedd hwn ac fe blanwyd 300 o goed i lenwi’r bylchau yn y berth o amgylch ger mynedfa Adwy’r Dderw Du (Black Oak Gate). Bydd yr ychwanegiad hwn i’r coridor cysefin i gysylltu cynefinoedd o fudd mawr am gannoedd o flynyddoedd i adar preswyl a mudol, gloynnod, gwyfynod, mamaliaid bychain, pryfed, amffibiaid, peillwyr heb anghofio’r draenogod. Mae yma le iddynt fyw, magu, truelio’r gaeaf, lloches a gallant fwydo ar y smorgasbord o flodau, aeron, cnau a llau.

Yn ogystal â’u cyfraniad i’n bywyd gwyllt, mae perthi yn chware rhan hanfodol i lanhau ein hawyr ac yn storfa i garbon yn eu coed a’u gwreiddiau.

This image has an empty alt attribute; its file name is image-3.png

Yn union fel y coedtiroedd hynafol sydd yma ac i gyflawni buddiannau bioamrywiaeth, dewiswyd coed brodorol Prydeinig – Draenen Wen (50%), Draenen Ddu (15%), Cyll (15%), Masarn (15%), Celyn (5%). Fe blannwyd y berth mewn rhes driphlyg er hyrwyddo ei buddiannau.

Ychydig o flynyddoedd ôl yr Ail Ryfel Byd, amcangyfrifwyd pe gosodwyd pob perth yn y Deyrnas Unedig o ben bwygilydd, y gellid cylchfordwyo ein planed ugain o weithiau – bron 500,000 o filltiroedd. Ail amcangyfrifwyd eto yn y nawdegau a dim ond 250,000 milltir sydd yn weddill. Felly, tros gyfnod o wythdeg o flynyddoedd, dinistriwyd hanner y perthi – ffaith ysgytwol.

Gyda diolch, mae gan ran helaeth ohonom well dealltwriaeth o’n heffaith amgylcheddol erbyn hyn ac rydym yn barod i newid ein ffyrdd. Yn wir, trwy brosiectau fel hyn ynghyd â blaengareddau y llywodraeth, mae’n wych clywed bod nifer y perthi yn cynyddu.

Unwaith eto, diolchiadau mawr i’n gwirfoddolwyr gwych. Gadewch inni barhau i wneud yr hyn a allwn i ymladd newid hinsawdd.”

Cadw mewn Cysylltiad

Ymgeisiwn i yrru ebost i aelodau yn rheolaidd ynglŷn â cyfleoedd i wirfoddoli Gellir eu gweld ar y system Rheoli Gwirfoddoli (Team Kinetic) a’r ffordd orau i’w  gweld yw trwy fewngofnodi i’r system (Login Page (teamkinetic.co.uk)). Os hoffech gofrestru ar Team Kinetic am y tro cyntaf, gyrrwch ebost i membership@friendsofcardiffreservoirs.org os gwelwch yn dda. Os bydd anhawsterau gyda Team Kinetic, mae Richard, cynhaliwr ein TG yn barod iawn i helpu (ebost: ITsupport@friendsofcardiffreservoirs.org).

Ein cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd yw: Instagram: fofcreservoirs; X(twitter) @FofCReservoirs; Gwefan: friendsofcardiffreservoirs.org


News

Post navigation

PREVIOUS
Friends of Cardiff Reservoirs – Newsletter No.5, July 2024
NEXT
Friends of Cardiff Reservoirs – Newsletter No. 6, December 2024

Leave a Reply Cancel reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Recent Posts

  • Ffrindiau Cronfeydd Dŵr Caerdydd – Cylchlythyr rhif 6, Rhagfyr 2024
  • Friends of Cardiff Reservoirs – Newsletter No. 6, December 2024
  • Ffrindiau Cronfeydd Caerdydd  – Cylchlythyr 5., Gorffennaf 2024
  • Friends of Cardiff Reservoirs – Newsletter No.5, July 2024
  • Friends of Cardiff Reservoirs – Newsletter No.4, December 2023

If you wish to make a donation to the Friends, please use the button above.

Privacy Policy - Cookie Declaration

© 2025   All Rights Reserved.
We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
Necessary
Always Enabled
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. These cookies ensure basic functionalities and security features of the website, anonymously.
CookieDurationDescription
cookielawinfo-checkbox-analytics11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Analytics".
cookielawinfo-checkbox-functional11 monthsThe cookie is set by GDPR cookie consent to record the user consent for the cookies in the category "Functional".
cookielawinfo-checkbox-necessary11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookies is used to store the user consent for the cookies in the category "Necessary".
cookielawinfo-checkbox-others11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Other.
cookielawinfo-checkbox-performance11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Performance".
viewed_cookie_policy11 monthsThe cookie is set by the GDPR Cookie Consent plugin and is used to store whether or not user has consented to the use of cookies. It does not store any personal data.
Functional
Functional cookies help to perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collect feedbacks, and other third-party features.
Performance
Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.
Analytics
Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.
Advertisement
Advertisement cookies are used to provide visitors with relevant ads and marketing campaigns. These cookies track visitors across websites and collect information to provide customized ads.
Others
Other uncategorized cookies are those that are being analyzed and have not been classified into a category as yet.
SAVE & ACCEPT
Powered by CookieYes Logo