Skip to content
Friends of Cardiff Reservoirs
  • HOME
  • News
  • Ecology
  • History
  • Committee
  • Membership
  • Volunteering Activities
  • Related Activities
  • Documents
  • Contact us
  • FAQs
  • Training and resources
  • Search Icon

Friends of Cardiff Reservoirs

Cyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd – Cylchlythyr Rhif 7, Gorfennaf 2025

Cyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd – Cylchlythyr Rhif 7, Gorfennaf 2025

July 29, 2025 FOCR_Admin Comments 0 Comment

Mae ein pedwerydd penblwydd yn agosáu ac edrychwn ymlaen at fod yn Gwmni Corfforedig Elusengar (CCE). Hefyd, byddwn yn darparu cais i’r Loteri Genedlaethol i’n galluogi i ehangu ein ymdrechion i wneud y cronfeydd dŵr yn fwy hygyrch i amrediad ehangach o bobol gan adeiladu ar y rhaglen Welis yn y Coed oedd yn llwyddiannus y llynedd.

Fel arfer, buom yn gweithio gyda Dŵr Cymru tros y misoedd diwethaf i gyflwyno cyfleoedd i wirfoddoli, cario mlaen â’r brosiect Atgofion Digidol, teithiau cerdded tywysedig a’r blaengaredd Cuddfan Tywys.

Mae rhagor o wybodaeth am ein grŵp ar ein gwefan: friendsofcardiffreservoirs.org. Ymwelwch â lisvane-llanishen.com am wybodaeth am yr atyniadau ger y cronfeydd a sut i archebu’r gweithgareddau.

Cwmni Corfforedig Elusengar (CCE)

Wedi arddeliad y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Gorffennaf y llynedd, cyflwynodd Pwyllgor y Cyfeillion ymgais i’r Comisiwn Elusennau i fod yn Gwmni Corfforedig Elusengar (CCE). Galluoga hyn inni ymgeisio am grantiau, hawlio Cymorth Rhodd, bancio rhatach etc. Golyga statws CCE y bydd yn rhaid cael cyfansoddiad newydd sy’n ymlynu â thempled safonol y Comisiwn Elusennau.

Yn lle Pwyllgor y Cyfeillion, bydd grŵp o Ymddiriedolwyr. Cytunodd pedwar o aelodau’r pwyllgor presennol i fod yn ymddiriedolwyr ar y cychwyn ond ar ôl  sefydlu’r CCE, bydd etholiadau i holl swyddi ymddiriedolwyr. Mae angen mwy o ymddiriedolwyr i’n helpu i gychwyn. Os oes diddordeb gennych yn hyn o beth, rhowch wybod i Fiona Liddell secretary@friendsofcardiffreservoirs.org

Cais i’r Loteri Genedlaethol

Bwriadwn gyflwyno cais i raglen ‘Pobol a Llefydd’ y Loteri Genedlaethol pan fydd trefniadau’r CCE wedi eu cwbwlhau. Bydd y cais yn ceisio cyllid i ddatblygu rhaglen i ehangu buddiannau y cronfeydd i gymunedau Caerdydd. Hefyd, bydd rhodd Grŵp Arwaith y Gronfa (GAG) yn cael ei defnyddio i gynnal y rhaglen.

Y Cyfeillion fydd yn arwain y cais a chawsom sawl ymgynghoriad dechreuol gyda phartneriaid posibl fel Dŵr Cymru ac Action in Caerau and Ely (ACE). Hoffem ehangu menter Welis yn y Coed pan oeddem cydweithio gyda Groundwork, Oasis a Chyngor Ffoaduriaid Cymru a byddem yn croesawu cymorth gan unrhyw aelodau a hoffai gyfrannu i’r fenter yma.

Atgofion Digidol

Pwrpas y brosiect hon yw cadw atgofion am y cronfeydd. Datblygir y brosiect mewn partneriaeth â Dŵr Cymru, Casgliad y Werin Cymru a Chymunedau Digidol Cymru. Erbyn hyn, mae’r deunydd gasglwyd gennym yn ystod ein diwrnod casglu cyntaf ym mis Tachwedd y llynedd, i’w weld ar wefan Casgliad y Werin Cymru (https:/www.peoplescollection.wales).

Cynhaliwyd achlysur casglu arall ym mis Mawrth eleni ac fe gasglwyd mwy o fewnwelediadau i hanes y cronfeydd yn y gymuned. Mae cyfleoedd i wirfoddoli gyda’r prosiect yma ac os hoffech wirfoddoli neu rannu eich atgofion, gyrrwch ebost os gwelwch yn dda i memories@friendsofcardiffreservoirs.org.  

Gwirfoddoli

Parhau mae’r gweithgareddau amrywiol gyda Dŵr Cymru i ymdopi â’r coetir ac mae cyfleoedd newydd yn cael eu datblygu hefyd.

Datblygwyd rôl Cuddfan Tywys i helpu ymwelwyr ddeall a gwerthfawrogi’r adar sydd ger y cronfeydd.

Roedd Teithiau Tywys, gyda gwirfoddolwr o Sight Life Wales, yn canolbwyntio ar yr amrywiaeth mawr o drydar yn y coetiroedd.

Bu gwirfoddolwyr yn gweithio fel llysgenhadon ar y safle, yn cribinio’r glaswellt, yn gosod camerau, yn clirio’r llwybrau a’r mieri, ac wedi cynorthwyo mewn nifer o weithgareddau eraill.

Cofnodwyd 4,700 o oriau gwirfoddoli er pan sefydlwyd grŵp y Cyfeillion yn 2021.

Bu grwpiau Ffocws gyda’r Coedwigwyr yn fuddiol er datblygu cyfleoedd newydd i wirfoddoli ac i hybu’r safle i ymwelwyr.

Gwahoddwyd Pwyllgor y Cyfeillion i drafod gwaith ein gwirfoddolwyr gyda Huw Irranca-Davies, Dirpwy Prif Weinidog Llywodraeth Cymru.

Rydym yn ddiolchgar i Dŵr Cymru am drefnu achlysuron ‘Diolch’ ym mis Ionawr eleni a hefyd yn ystod Wythnos Gwirfoddoli ym mis Mehefin.

Tanysgrifiadau

Mae tua 330 ar ein rhestr gohebu gan gynnwys bron i 200 ar y System Weinyddu Gwirfoddoli. Gresyn mai dim ond 77 o danysgrifiadau sydd wedi eu talu yn 2025 gan ganiatáu cyfranogi’n llawn o’r gweithgareddau. Byddem yn ddiolchgar petai aelodau yn archwilio bod eu haelodaeth wedi ei dalu. Mae lefel y tanysgrifiadau yr un fath â 2025.

Cymdeithasu

Parhau mae’r sesiynau rheolaidd ‘bwrw mewn’ yng nghaffi’r Ganolfan (10.00 – 1200 Sadwrn olaf y mis). Mae’r sesiynau yn gyfle i aelodau gymdeithasu ac i bobol ddarganfod mwy o wybodaeth am grŵp y Cyfeillion a’r cyfleoedd sydd ar gael i wirfoddoli.

Mae manylion sut i ymuno â’r Cyfeillion ar ein gwefan (Aelodaeth). Dim ond £5 yw’r gost (£10 i deulu).

Cadw mewn Cysylltiad

Ymgeisiwn i yrru ebost yn rheolaidd i’n haelodau ynglŷn â chyfleoedd i wirfoddoli a gellir eu gweld ar y system Rheoli Gwirfoddoli (Team Kinetic). Y ffordd orau i’w cyrraedd yw trwy fewngofnodi i’r system (Login Page  teamkinetic.co.uk).

Os ydych am gofrestru ar Team Kinetic am y tro cyntaf, gyrrwch ebost i membership@friendsofcardiffreservoirs.org os gwelwch yn dda. Os bydd anhawsterau gyda Team Kinetic, mae Richard, cynhaliwr ein TG yn barod iawn i helpu (ebost: ITsupport@friendsofcardiffreservoirs.org).

Ein cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd yw: Instagram: fofcreservoirs; X(twitter) @FofCReservoirs; Gwefan: friendsofcardiffreservoirs.org


News

Post navigation

PREVIOUS
Friends of Cardiff Reservoirs – Newsletter No. 7, July 2025

Leave a Reply Cancel reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Recent Posts

  • Cyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd – Cylchlythyr Rhif 7, Gorfennaf 2025
  • Friends of Cardiff Reservoirs – Newsletter No. 7, July 2025
  • Ffrindiau Cronfeydd Dŵr Caerdydd – Cylchlythyr rhif 6, Rhagfyr 2024
  • Friends of Cardiff Reservoirs – Newsletter No. 6, December 2024
  • Ffrindiau Cronfeydd Caerdydd  – Cylchlythyr 5., Gorffennaf 2024

If you wish to make a donation to the Friends, please use the button above.

Privacy Policy - Cookie Declaration

© 2026   All Rights Reserved.
We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
Necessary
Always Enabled
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. These cookies ensure basic functionalities and security features of the website, anonymously.
CookieDurationDescription
cookielawinfo-checkbox-analytics11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Analytics".
cookielawinfo-checkbox-functional11 monthsThe cookie is set by GDPR cookie consent to record the user consent for the cookies in the category "Functional".
cookielawinfo-checkbox-necessary11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookies is used to store the user consent for the cookies in the category "Necessary".
cookielawinfo-checkbox-others11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Other.
cookielawinfo-checkbox-performance11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Performance".
viewed_cookie_policy11 monthsThe cookie is set by the GDPR Cookie Consent plugin and is used to store whether or not user has consented to the use of cookies. It does not store any personal data.
Functional
Functional cookies help to perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collect feedbacks, and other third-party features.
Performance
Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.
Analytics
Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.
Advertisement
Advertisement cookies are used to provide visitors with relevant ads and marketing campaigns. These cookies track visitors across websites and collect information to provide customized ads.
Others
Other uncategorized cookies are those that are being analyzed and have not been classified into a category as yet.
SAVE & ACCEPT
Powered by CookieYes Logo